C. y ffenestr
1 kerddeis o vewn kytleissiev
2 kerdd wammal vu /r/ mwngial mev
3 gan ystlys dyrys diroedd
4 hvndy bvn hynn o dyb oedd
5 da arganvod dewr geinverch
6 drwy vric y llwyn er mwyn merch
7 ffyrf gariat dygiat agerw
8 ffenestr gadarn ar ddarn dderw
9 [44r] ercheis gvssan gwedd lanach
10 yr vvn drwy /r/ dderw ffenestr vach
11 gem addwyn oedd gam iddi
12 gommeddodd ni vynnodd vi
13 astrvs vu /r/ ffenestr oestrevl
14 lle rhoet y ddwyn lleuver hevl
15 ni bwy hen o bv o hvd
16 ffenestr a honn vn ffvnvd
17 dieithr hwyl da vthr helynt
18 yr honn ar gaer llion gynt
19 y doi velwas o drasserch
20 drwyddi heb arswydi serch
21 kvr trymhaint kariat tramawr
22 gynt ger ty verch gocvran gawr
23 kyt kawn vod pan vei /n/ odi
24 hwyl am y ffenestr a hi
25 ni chefeis elw val melwas
26 nychv /r/ grvdd yw na char gras
27 bettem am dylifem dlos
28 wyneb yn wyneb nawnos
29 [44v] heb wyl sal heb olev ser
30 heb elw rhwng y ddev biler
31 mwy /r/ kawdd o bobty /r/ mvr kalch
32 vinvin vi am dyn veinvalch
33 ni ellem evr em wryt
34 gael y ddev ylvin ygyt
35 ni eill dev enev vnoet
36 drwy ffenestr gyvingrestr goet
37 vangau graen vyngaev o gret
38 vwngial rhac i chyvynget
39 ni phoenet neb wrth ffenestr
40 rhwng phanvgl nos a ros restr
41 heb hvnaw val ym poenwyt
42 heb hwyl hoyw am ddyn loyw lwyt
43 torryt diawl ffenestrawl ffav
44 a phwl arf i philerav
45 awch lwyr llit ai chlawr llydan
46 ai chlo ai hallwedd achlan
47 ag a wnaeth rheolaeth rhvs
48 rhyw restrau bilerav
rwystrvs
49 [45r] lladd kannait am llvdd kynnif
50 ai llaw ai lladdodd a llif
51 lladd dihir am llvdd dihvn
52 lluddiodd vi /n/ lle ddoedd y vvn
dauyd ap glim